Wal â golygfa

Dyddiad:2008/2009
Artist:Lauren Curl, Madge, Ed Elliot a Paula Morison
Lleoliad:Morglawdd Bae Caerdydd, nesaf at yr Eglwys Norwyaidd

Pedwar o raddedigion UWIC yn ymgymryd â’u comisiwn cyntaf ac
yn trawsnewid y fynedfa i Lwybr Arfordir Morglawdd Bae Caerdydd.

Councilor Howells cutting the ribbon Y Cynghorydd Howells yn agor y gwaith celf, dydd Gwener 24 Hydref 2008.

Wal farddoniaeth fagnetig ryngweithiol 26 metr o hyd dros dro yw comisiwn Wal â Golygfa. Mae modd symud y magnetau, fel bod pobl sy’n pasio heibio’n gallu creu eu cerddi neu ddatganiadau eu hunain o eiriau dethol ar y wal. Mae’r pedwar artist wedi cydweithio i gyfuno themâu natur ffisegol a rhyngweithiol y wal yma, mewn perthynas â goblygiadau hanesyddol a chymdeithasol cynlluniau adfywio ym Mae Caerdydd.

Ceir mynegiant i hanes y Bae trwy’r dewis o destunau a ddefnyddir. Mae’r geiriau sydd wedi’u hargraffu ar y magnetau wedi’u cymryd o eiriau caneuon a cherddi sy’n bodoli, gan ad-drefnu’r testunau hynny i greu gweithiau newydd. Mae’r cerddi i gyd yn gysylltiedig â Chaerdydd, felly bydd y geiriau, hyd yn oed ar ôl eu symud o gwmpas, yn cadw’r cysylltiad hwn.


Mae’r artistiaid yn gwahodd y cyhoedd i ryngweithio â’r gwaith trwy greu arddangosfa eiriau sy’n newid o hyd ar y wal. Tynnir llun y gwaith celf o bryd i’w gilydd a chaiff y ffotograffau eu harddangos yn rheolaidd yng Nghanolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd ‘y Tiwb’ ac ar wefan Awdurdod Harbwr Caerdydd www.cardiffharbour.com a gwefan Safle www.safle.com.

“Hoffem annog pawb i fynegi’u hunain trwy’r gwaith rhyngweithiol yma. Ein gobaith yw y bydd y gwaith yma’n rhoi boddhad i bobl yn esthetig ac yn gysyniadol ac y bydd yn ddiddorol ac yn ddifyr i ymwelwyr a phobl leol o bob oed.” Yr artistiaid Ed Elliott, Paula Morison, Lauren Curl a Madge.

Ychwanegodd y Cynghorydd Howells, a agorodd y gwaith celf yn ffurfiol, “Mae celf gyhoeddus yn rhywbeth sy’n cael ei annog yn y Bae ers tro. Mae’r darn newydd yma’n ychwanegiad at restr o gyweithiau ar y cyd â chyrff lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n annog artistiaid i ddatblygu darnau yn ein prifddinas. Rwy’n falch o fod wedi cael fy ngwahodd yma heddiw i ddadorchuddio “Wal â Golygfa”, ac yn croesawu pobl o bob oed i ddod draw i weld yr arddangosiad rhyngweithiol wrth fynedfa Llwybr Arfordir Morglawdd Bae Caerdydd.”



Yr Artistiaid

Lauren Curl – Mae ailadrodd a gosod haenau yn elfennau cryf yng nghyfansoddiadau cyfrwng cymysg Lauren. Er mai ar waith argraffu y mae ei hymarfer yn seiliedig yn bennaf, mae ei gwaith diweddar wedi canolbwyntio ar y berthynas rhwng delweddau llonydd a symudol.

Ed Elliott – Cerddoriaeth sy’n ysbrydoli ei waith, sy’n cynnwys arwyddocâd personol, yn ogystal ag archwilio ieithoedd cerflunwaith a’r esthetig. Gan ddefnyddio symbolaeth, mae ei waith yn cwestiynu natur wrthrychol realaeth a’r modd y mae pobl yn gweld, ac yn archwilio’r weithred angof o edrych.
Madge – Yng nghyd-destun byd o ddwyfol greadigaeth, rhaid i mi, meidrolyn amherffaith, gydnabod yr ymrafael rhwng anhrefn a rheolaeth er mwyn bodoli a chreu.

Paula Morison – Mae ymarfer Paula, sy’n dod o gefndir cerflunio cyfoes, yn canolbwyntio ar fanylion bach bywyd bob dydd ac yn defnyddio cyfryngau amrywiol. Mae ffawd, hap a chyd-ddigwyddiad yn darparu cefndir pwysig hefyd i’r naratifau yn ei gwaith.



Artistiaid Mentora – Bermingham & Robinson

Ers tair blynedd bellach mae’r artistiaid gweledol o Gaerdydd, Robert Bermingham a Richard Robinson, wedi bod yn cydweithio gan ffurfio partneriaeth artistig ddynamig sydd yn prysur ennill ei phlwyf ym myd y celfyddydau gweledol cyfoes yng Nghymru. Mae eu gwaith yn cyfuno lluniadu, collage, gosodwaith a cherflunwaith mewn ffordd newydd a chyffrous, gan ddefnyddio syniadau a thechnegau newydd a chreu ynni a lliw llawn bywyd i’r celfyddydau gweledol nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws Prydain hefyd.

Yn 2006 cawsant eu dewis ar gyfer Gwobr Lluniadu Jerwood gan dderbyn clod a chanmoliaeth uchel gan y detholwyr yn ei hagoriad yn Llundain. O ganlyniad mae eu gwaith erbyn hyn yn cael ei arddangos yn genedlaethol. Yn ogystal â’u gwaith o fewn sioeau grŵp ledled Prydain maent wedi cael arddangosfeydd unigol llwyddiannus yn G39 ac yn ‘house’ gyda chefnogaeth Ganolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd.