Hychydig Hanesion

Dyddiad:Gorffennaf 2008
Artist:Grennan & Sperandio
Lleoliad:Sir Ddinbych, Cymru

Artistiaid Preswyl yn nhudalennau’r Denbighshire Free Press

Cartoon image of zoe dancing and talking Zoë, stribed cartwn gan Grennan a Sperandio.

Mae’r artistiaid Grennan a Sperandio wedi creu 10 portread ar ffurf stribedi comic o fywyd yn Sir Ddinbych. Trwy ganolbwyntio ar ddeg o bobl leol sy’n prynu papur newydd y ‘Denbighshire Free Press’, maen nhw wedi creu ciplun o fywyd ledled Gogledd Cymru.

Meddai Zoe, un o’r deg o bobl o Sir Ddinbych a fu’n gweithio gyda Grennan a Sperandio ar y stribedi comic newydd: “Mae’n wych gweld fy hun fel cymeriad cart_n – mae’n fwy fel fi na fi fy hun! Rwy’n hapus iawn â’r stribed. Mae’n cofnodi darn o fy mywyd am byth.”

Caiff y stribedi eu cyhoeddi bob wythnos ar ddydd Iau yn y Denbighshire Free Press rhwng 22 Mai a 24 Gorffennaf. Bydd y gwaith hefyd yn cael ei arddangos fel rhan o _yl Ymylol Llangollen, rhwng 17 a 28 Gorffennaf yn Y Capel yn Llangollen. Rhoddir gwaith celf wedi’i fframio i bawb fu’n cymryd rhan, mewn digwyddiad dathlu arbennig yn Y Capel ar 28 Gorffennaf. Ariannwyd y prosiect gan Safle.

“Mae dod i adnabod Sir Ddinbych wedi bod yn brofiad ysbrydoledig ac yn llawer o hwyl. Rydyn ni wedi cyfarfod â phob math o bobl wrth fynd ati i greu’r deg stribed cart_n yma, a’r gobaith yw bod rhywfaint o amrywiaeth, hiwmor a chymeriad y Sir i’w weld yn ein gwaith. Rydyn ni wedi creu celfwaith ar hyd a lled y byd, o Efrog Newydd i Newcastle-upon-Tyne, gyda phob math o bobl, ac mae stribedi cart_n ‘Ychydig Hanesion’ ymhlith y goreuon. Rydyn ni’n gobeithio y bydd mwy o bobl Sir Ddinbych – darllenwyr y stribedi – yn adnabod agweddau ar eu Sir a rhywfaint o’u hanes eu hunain yn ein gwaith.”
Grennan a Sperandio

Mae Simon Grennan a Christopher Sperandio wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd fel artistiaid er 1990. Mae eu prosiectau’n adnabyddus yn rhyngwladol am gymysgu cyfraniad uniongyrchol y cyhoedd â chanlyniadau terfynol pryfoclyd, heriol a difyr. Ymhlith eu prosiectau blaenorol mae “Modern Masters”, a gomisiynwyd gan Amgueddfa Celfyddyd Fodern Efrog Newydd (2001), sef llyfr comic a wnaed gydag ymwelwyr a staff yr Amgueddfa, ac “We Got It!” (1993), sef prosiect tair blynedd gyda gweithlu undebol ffatri siocled yn Chicago. Y canlyniad oedd masgynhyrchu, dosbarthu a gwerthu bar o siocled roedd y gymuned wedi’i ddylunio a’i wneud. Mae’r artistiaid nawr ar fin cychwyn prosiect mawr ym Mharc Caia Wrecsam, a bydd ail gyfres eu rhaglen deledu yn America, "Artstar", yn cael ei darlledu ddiwedd yr haf eleni.