Newyddion a Chyfleoedd
Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf.
22.10.08
Ystafelloedd Eraill, Lleisiau Eraill
Myfyrdodau artist preswyl ar y daith o’r gell i’r ystafell
ddarllen.
Arddangosfa artist preswyl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 28 Tachwedd – 31 Ionawr 2009. Olwg Breifat 27ain Tachwedd, 6.30 - 8.30yh.
Dau Hanner yn gwneud Un Cyfan, Arthur Lewis 1956 a Blue MacAskill 2008.
Mae Blue MacAskill wedi ymchwilio, archwilio a phrofi pob casgliad yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r arddangosfa hon yn adrodd hanes ei darganfyddiadau ac yn dangos gweithiau celf sy’n ffurfio darlun personol o’r llyfrgell, yn adlewyrchiad o’i hymateb i’r cyfnod preswyl a dreuliodd yno yn y cyfnod Ionawr – Hydref 2008.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys ffotograffiaeth a gweithiau celf cyfrwng cymysg, yn ogystal â phrosiect ffilm. Bydd wedi’i chynllunio i wneud defnydd llawn o adeilad enwog y llyfrgell, a godwyd ym 1916.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys gwaith a grëwyd ar y prosiect gan bedair ysgol, sef Harlech, Nantgaredig, Llanidloes a Machynlleth. Mae’r bobl ifanc hyn, dan arweiniad Blue MacAskill, wedi dod i ddeall mwy am yr hyn sydd gan y llyfrgell i’w gynnig iddynt hwy a’u cymuned drwy gyfres o ymweliadau â’r llyfrgell a arweiniodd at greu’r gweithiau celf.