Newyddion a Chyfleoedd
Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf.
11.11.09
Cyfle Comisiwn
Mae ar BBC Cymru Wales eisiau comisiynu artist i greu
penddelw ffigurol yn deyrnged i’r diweddar Ray
Gravell, y cawr rygbi a’r darlledwr a fu farw ym mis
Hydref 2007.
Lleolir y gwaith celf comisiwn yn y dderbynfa yn adeilad BBC Cymru yng Nghaerdydd.
Bydd artistiaid sy’n cynhyrchu gwaith mewn metel bwrw yn arbennig o addas ar gyfer y comisiwn hwn, er y rhoddir ystyriaeth i rai sy’n gweithio mewn cyfryngau eraill hefyd.
Rhagwelir y bydd y gwaith celf gorffenedig wedi’i gwblhau a’i osod yn ei le erbyn canol mis Mawrth 2010.
Y gyllideb: £4500 (a TAW) i gynnwys yr holl gostau a threuliau.
Am fanylion llawn a gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais, ewch i www.safle.com neu cysylltwch â cinzia.mutigli@safle.com.
Dyddiad cau: 14 Rhagfyr 2009