Newyddion a Chyfleoedd
- Yn eisiau: Artist ar gyfer Tîm Dylunio a Chomisiwn Cyfle i artist
- Sue Essex yw Cadeirydd newydd SafleStori newyddion
- Stiwdio Safle'n galw am geisiadaucyfle yn Safle
- Hadau
- Y Wal Anifeiliaid news story
- Cadeirydd Bwrdd yr YmddiriedolwyrCyfle yn Safle
- Freddie Yauner wedi'i ddewis ar gyfer Comisiwn Preswyl y LludwStori newyddion
- Prosiectau Safle'n cael sylw ar 'Wedi 3' S4C Stori newyddion
- Yn eisiau Artist ar gyfer Tîm Dylunio a Chomisiwn, BangorCyfle i artist
- Comisiynau celf gyhoeddus Ysgol Gyfun y Bont-faenCyfleon comisiwn
- Artist Preswyl/ComisiwnThe Ashes
- Aelod Staff Newydd SafleCyhoeddiad Safle
- Amgueddfa'r Ennyd Arddangosfa
- Nutopia: Archwilio'r Dychymyg Dinesig, 2 a 3 Ebrill, CaerdyddSymposiwm
- Susan J Adams, 'They Leak Through Me' yn Oriel MyrddinArddangosfa
- Cyfle cyllid Rhaglen Stiwdio Safle cyfle
- Gwobr Graddedigion SafleStori Newyddion
- Pennaeth Cyllid a Gweinyddol, A/Ll (tua £30,000 a buddion)News story
- Comisiwn Artist yn Adeilad Llywodraeth Cynulliad Cymru - Cyffordd Llandudno Comisiwn Artist
- Mae Safle'n chwilio am hyd at dri Aelod Bwrdd dynamigNews story
- Ystafelloedd Eraill, Lleisiau EraillArddangosfa
Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf.
21.08.09
Y Wal Anifeiliaid
datgelu darn o gelf ecolegol gyffrous yn fuan ym Mae
Caerdydd
Mae Charles Church, YWG a Safle yn falch o gyhoeddi cwblhad y 'Wal Anifeiliaid', gwaith celf ecolegol safle-benodol gan yr artist Gitta Gschwendtner.
Mae'r 'Wal Anifeiliaid' yn rhan o wal 50 metr o hyd, yn rhedeg ar hyd ymyl deheuol 'Strata', datblygiad preswyl newydd yn Century Wharf, Bae Caerdydd. Gellir ei chyrraedd trwy ddilyn llwybr glan yr afon sy'n arwain o Clarence Road tua Chanol y Ddinas.
Mae effaith amgylcheddol datblygiad helaeth Bae Caerdydd yn destun pryder parhaus ac mae amryw o wahanol gamau wedi'u cymryd i liniaru hyn. Bwriad y gwaith celf hwn yw cynorthwyo bywyd gwyllt yn yr ardal ac annog mwy o gynefino. Mae datblygiad tai newydd Century Wharf yn darparu tua 1,000 o fflatiau a thai newydd; bydd dyluniad Gitta Gschwendtner ar gyfer y 'Wal Anifeiliaid' yn ateb hyn gyda rhyw 1,000 o flychau nythu i wahanol rywogaethau adar ac ystlumod, wedi'u hintegreiddio yng ngwead y wal sy'n gwahanu'r datblygiad preifat hwn oddi wrth lwybr cyhoeddus.
Gan ymgynghori ag ecolegydd, crëwyd cartrefi i anifeiliaid o bedwar maint gwahanol, wedi'u gosod yng ngorchudd pren/concrit arbennig y wal i ddarparu wal i Century Wharf sy'n bensaernïol drawiadol ac yn sensitif i'r amgylchedd. Bydd y wal anifeiliaid yn goresgyn y ffin rhwng y preifat a'r cyhoeddus hefyd, gan y bydd bywyd gwyllt yn crwydro'n rhydd rhwng y ddau le.
Am ragor o wybodaeth a lluniau i'r wasg cysyllter ag Emma Price
Rhif ffôn: 0845-241 3684
ebost: emma.price@safle.com
gwefan: www.safle.com