07.09.09

Stiwdio Safle'n galw am geisiadau

Y dyddiad cau nesaf i gael cyllid Stiwdio Safle yw 30
Medi 2009!

Mae rhaglen Stiwdio Safle’n cefnogi arbrofi creadigol a mentro gan artistiaid, cyweithiau a sefydliadau mewn mannau cyhoeddus.

Varsity of Maneuvers, ‘Ffordd yr Afr’. Cefnogwyd gan Stiwdio Safle ym mis Mawrth 2009.

Byddwn yn darparu arian cyfatebol ac yn partneru prosiectau sy’n archwilio mannau cyhoeddus mewn ffordd agored a dynamig.
Croesawn geisiadau gan ymarferwyr a grwpiau o wledydd Prydain a thramor ar gyfer prosiectau a gynhelir yng Nghymru neu rai sydd â chysylltiad cryf â’r wlad.


Gwybodaeth gysylltiedig