Newyddion a Chyfleoedd
Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf.
22.10.08
Ty Ffilmiau
Noson o ffilmiau wedi’i churadu gan Blue MacAskill fel rhan
o’i harddangosfa artist preswyl - Ystafelloedd Eraill, Lleisiau
Eraill yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae Blue MacAskill wedi ymchwilio, archwilio a phrofi pob casgliad yn y Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o’i phrosiect preswyl. Bydd y noson ffilm hon yn ategu ei harddangosfa ac yn rhoi llwyfan i waith a grëwyd yn ystod ei chyfnod preswyl.
Creu’r Negatif, Casgliad Ffotograffiaeth, LLGCBlue MacAskill 2008
Noswaith o ffilmiau, gyda thafluniadau a thrafodaeth, yn cynnwys yr Archif Ffilm Genedlaethol, Ysgol Gelf Aberystwyth a gweithiau ffilm gan artistiaid o Gymru sy’n dod i amlygrwydd.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
7-8pm 29 Ionawr 2009
Rhaglen lawn i’w chadarnhau.