Andanom ni
Ein Proffil
Pwy Ydym Ni
Ymgynghoriaeth gelf gyhoeddus annibynnol yw Safle a ffurfiwyd yn
2007 drwy uno CBAT – yr Asiantaeth Gelfyddydau ac Adfywio, a
Chywaith Cymru.
Mae ffurfio Safle, un o’r cyrff celfyddydau cyhoeddus mwyaf ym Mhrydain, yn cadarnhau Cymru fel grym blaenllaw yn natblygiad ymarfer celf gyhoeddus yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol. Roedd y ddau gwmni blaenorol wedi gweithio’n helaeth ar brosiectau celfyddydol yn y byd cyhoeddus gyda chleientiaid o’r sector cyhoeddus a phreifat, ac wedi cyfrannu at lwyddiant llawer o fentrau adfywio mawr trwy sicrhau rôl bwysig i artistiaid mewn cynlluniau adfywio.
Nod Safle yw hyrwyddo, cefnogi, datblygu a chyflawni gwaith celfyddydol cyhoeddus mewn trefi ac yng nghefn gwlad, trwy Gymru gyfan ac yn rhyngwladol. Trwy ein rhaglenni a’n dulliau gweithio niferus ymdrechwn i fywiogi ac adfywio mannau cyhoeddus, cefnogi ac ysgogi cynaliadwyedd, ac addysgu ac ysbrydoli cymunedau lleol. Mae Safle’n cydweithio gydag artistiaid, penseiri, trigolion, cymunedau, awdurdodau cyhoeddus a’r sector preifat gan ymateb i’r galw cynyddol am fannau cyhoeddus gwell.
Yn ogystal â rheoli comisiynau celf gyhoeddus a datblygu strategaethau pwrpasol, mae rhaglen Stiwdio Safle’n cefnogi prosiectau byrdymor, dros-dro ac arloesol. Mae hyn yn galluogi artistiaid i weithio gyda chymunedau ar brosiectau sydd o fudd i’r ddwy ochr, gan annog dealltwriaeth a gwerthfawrogiad dyfnach o gelfyddyd a hybu ffurfio partneriaethau proffesiynol creadigol newydd.